
Ganwyd a magwyd Gwen yn Sir Benfro, ym Mwlchygroes ac Abergwaun, lle’r oedd ei thad yn bennaeth y ddwy ysgol gynradd yn eu tro. Ers blynyddoedd maith bellach, bu’n byw ym Mryste, y briod i feddyg teulu ac yn fam i ddau o feibion. Er gwaethaf byw’r ochr anghywir i Bont Hafren, bu’n gweithio’n gyson trwy gyfrwng y Gymraeg, fel rheolwraig cyfieithu, cyfieithydd llawrydd ac awdur. Mae ei gyrfa fel cyfieithydd yn golygu taw hi sy’n cyfieithu ei nofelau ei hun.
Mae ei phrofiad awdurol yn cynnwys sgriptio ar gyfer y theatr (Theatr Felinfach), y radio (llunio a sgriptio dwy gyfres ar y cyd o ‘Ponty’, Radio Cymru) a theledu, ac erbyn hyn mae hi wedi cyhoeddi nifer o nofelau yng Nghymraeg a Saesneg. Nofelau trosedd yw ei phrif ddiddordeb, ac yn wir, hyd yn oed wrth lunio sgriptiau radio roedd yn ei chael yn anodd i beidio â chynnwys corff a dirgelwch yn rhywle!
Mae’n ysgrifennu dwy gyfres o nofelau trosedd: cyfres hanesyddol wedi’i gosod ym 1947, gyda’r athrawes gynradd Della Arthur fel prif gymeriad, a chyfres gyfoes, wedi’i lleoli yn nhref ffuglennol Maeseifion yn Sir Benfro. Mae creu dwy gyfres gwbl wahanol yn ei chaniatáu i gael hoe o un trwy fynd i’r afael â’r llall, ac osgoi diflasu arnynt. Gan ei bod yn darllen nofelau trosedd yn ddibaid, mae’n amau bod syrffedi ar gymeriadau yn un o’r prif beryglon i nofelwyr cyfresi.
Ei nofel ddiweddaraf o ran ei chyhoeddi yw Dead White, sef cyfieithiaid o Gwyn eu Byd (Gomer).
Gwen was born and raised in Pembrokeshire, in Bwlchygroes and Fishguard, where her father was headteacher of both primary schools in turn. For many years now she’s lived in Bristol, married to a GP and the mother of two sons. Although she lives on the wrong side of the Severn Bridge (!), she has been able to work consistently in both Welsh and English, as a translation manager, a freelance translator and an author. Her career as a translator has enabled her to translate her own novels.
Her writing experience includes scripting for theatre (Theatr Felinfach), radio (joint-storylining and scripting two series of ‘Ponty’, Radio Cymru) and television, and by now she has published a number of novels in English and Welsh. Her main interest is crime novels, and to be truthful, even when writing radio scripts she found it difficult not to include a corpse and a mystery somewhere!
She writes two series of crime novels: a historical series set around 1947, with a primary school teacher, Della Arthur, as the protagonist, and a contemporary series, set in the fictional town of Maeseifion in Pembrokeshire. Creating two completely different series allows her to take a rest from one by tackling the other, thus avoiding getting stale. As she reads crime novels incessantly, she suspects that tiring of one’s characters is one of the great pitfalls for series writers.
Her latest published novel is Dead White, which is a translation of Gwyn eu Byd (Gomer).
![]() | ![]() | ![]() |