The Judges / Y Beirniaid

English

Clare Mackintosh

With more than two million copies of her books sold worldwide, number one bestseller Clare Mackintosh is the multi-award-winning author of I Let You Go, which was a Sunday Times bestseller and the fastest-selling title by a new crime writer in 2015. It also won the Theakston Old Peculier Crime Novel of the Year in 2016.

Both Clare’s second and third novels, I See You and Let Me Lie, were number one Sunday Times bestsellers. All three of her books were selected for the Richard & Judy Book Club. Clare’s latest novel, After the End, was published in June 2019 and spent seven weeks in the Sunday Times hardback bestseller chart. Her latest thriller, Hostage (June 2021) is a contemporary take on the classic locked-room mystery. 

Together, Clare’s books have been published in more than forty countries. Clare is patron of the Silver Star Society, a charity based at the John Radcliffe hospital in Oxford, which supports parents experiencing high-risk or difficult pregnancies. She lives in North Wales with her husband and their three children.

Wedi gwerthu mwy na dwy filiwn o gopïau o’i llyfrau yn fyd-eang, mae gwerthwraig orau Clare Mackintosh yn awdur y nofel arobryn I Let You Go, a oedd yn werthwr gorau’r Sunday Times a’r gyfrol gan awdur trosedd newydd a werthodd yn fwyaf cyflym yn 2015. Enillodd wobr Nofel Drosedd y Flwyddyn Theakston Old Peculier yn 2016.

Roedd ail a thrydedd nofel Clare, I See You a Let Me Lie, hefyd yn werthwyr gorau rhif un y Sunday Times. Dewiswyd pob un o’i thair nofel gyntaf ar gyfer Clwb Llyfrau Richard a Judy. Cyhoeddwyd nofel ddiweddarach Clare, After the End, ym Mehefin 2019, a threuliodd saith wythnos yn siart gwerthwyr gorau clawr caled y Sunday Times. Mae ei nofel ias a chyffro diweddaraf, Hostage (Mehefin 2021) yn rhoi golwg newydd ar ffurf y dirgelwch mewn stafell gloëdig.

Mae llyfrau Clare wedi cael eu cyhoeddi mewn mwy na deugain o wledydd. Mae Clare yn noddwraig y Silver Star Society, elusen a leolir yn ysbyty John Radcliffe yn Rhydychen sy’n cefnogi rhieni sy’n profi beichiogrwydd peryglus neu anodd. Mae hi’n byw yng Ngogledd Cymru gyda’i gŵr a’u tri phlentyn.

Peter Buckman

Peter Buckman has been involved with publishing for over half a century, as an editor, literary agent, and author. He has written eight books and many scripts for the theatre, film, television, and radio.

Mae Peter Buckman wedi gweithio ym maes cyhoeddi am dros hanner ganrif fel golygydd, asiant llenyddol ac awdur. Mae’n awdur wyth o lyfrau a nifer o sgriptiau ar gyfer y llwyfan, ffilmiau, teledu a radio.

Awais Khan

Awais Khan is a graduate of the University of Western Ontario and Durham University. He is also an alum of Faber Academy. He teaches creative writing in Pakistan as part of the Writing Institute and has delivered lectures at Durham University, American University of Dubai, Canadian University of Dubai to name a few. He has appeared on BBC World Service, Dubai Eye, Voice of America, City42, Cambridge Radio, Samaa TV, Indus TV, PTV Home and several other radio and TV channels. His work has appeared in The Aleph Review, The Hindu, The Missing Slate etc.  

He is the author of In the Company of Strangers (published by Simon & Schuster, The Book Guild and Isis Audio) and No Honour (published by Orenda Books in Summer 2021). He is represented by Annette Crossland.  

Graddiodd Awais Khan o Brifysgol Western Ontario ac o Brifysgol Durham. Mae hefyd yn gyn-fyfyriwr y Faber Academy. Mae’n dysgu ysgrifennu creadigol ym Mhacistan fel rhan o’r Institiwt Ysgrifennu ac mae wedi darlithio ym Mhrifysgol Durham, Prifysgol Americanaidd, Dubai, Prifysgol Ganadaidd, Dubai, i enwi ond rhai. Mae wedi ymddangos ar nifer o sianeli radio a theledu, gan gynnwys BBC World Service, Dubai Eye, Voice of America, City42, Cambridge Radio, Samaa TV, Indus TV, a PTV Home. Mae ei waith wedi ei gyhoeddi yn The Aleph Review, The Hindu, The Missing Slate ac eraill.  

Mae’n awdur In the Company of Strangers (Simon & Schuster, The Book Guild ac Isis Audio) a No Honour (i’w gyhoeddi gan Orenda Books yn yr haf 2021). Fe’i cynrychiolir gan Annette Crossland.  

Cymraeg

Gwen Davies

Magwyd Gwen Davies mewn teulu Cymraeg yn Nwyrain Sir Efrog, Lloegr. Cyfieithodd nofelau Caryl Lewis Martha, Jac a Sianco (Martha, Jack and Shanco, Parthian, 2007) ac Y Gemydd (The Jeweller, Honno, 2019). Roedd yn gyd-gyfieithydd, gyda’r awdur, o Seren Wen ar Gefndir Gwyn gan Robin Llywelyn (White Star, Parthian, 2003), ac mae hefyd wedi cyfieithu cerddi, straeon byrion a detholion o nofelau gan Hywel Meilyr Griffiths, Caryl Lewis, Wiliam Owen Roberts and Mihangel Morgan, ar gyfer antholegau, cylchgronau a fideos, yng Nghymru a’r Unol Daleithiau. Mae hi’n olygydd Sing Sorrow Sorrow, Dark and Chilling Tales (Seren, 2010), casgliad o straeon arswyd cyfoes ar sail chwedlau, mytholeg a hanes gwerin gan awduron Cymru. Caiff ei chyfweliad gyda Llyr Gwyn ei gynnwys yn Translators Talking (Parthian, 2021). Mae Gwen yn olygydd y New Welsh Review ers 2011. Mae’n byw yn Aberystwyth gyda’i theulu.

Gwen Davies grew up in a Welsh-speaking family in West Yorkshire, England. She has translated two novels by Caryl Lewis, Martha, Jack and Shanco (Parthian, 2007) and The Jeweller (Honno, 2019). She is the co-translator, with the author, of Robin Llywelyn’s White Star (Parthian, 2003), and has also translated poems, short stories and novel extracts by Hywel Meilyr Griffiths, Caryl Lewis, Wiliam Owen Roberts and Mihangel Morgan, for anthologies, magazines and videos, in Wales and the USA. She is the editor of Sing Sorrow Sorrow, Dark and Chilling Tales(Seren, 2010), an anthology of spooky contemporary stories based on myth, folk and fairytale by the authors of Wales. Her interview about translation with Llyr Gwyn appears in Translators Talking (Parthian, 2021). Gwen has been editor of New Welsh Review since 2011. She lives in Aberystwyth with her family.

Jon Gower

Awdur mwy na thri deg o lyfrau yw Jon, sy’n cynnwys trioleg o nofelau trosedd Cymraeg, a fydd yn gorffen gydag Y Diwedd, a ddisgwylir yn 2022. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar lyfr ynglŷn â chwaraewr pêl-droed Americanaidd, Raymond Chester, ac un arall sy’n olrhain Sianel San Siôr a’i harfordiroedd yng Nghymru ac yn Iwerddon.

Jon has over thirty books to his name including a trilogy of Welsh language police procedurals which concludes with Y Diwedd, due out in 2022. He is currently working on a book about American footballer Raymond Chester and another which charts St.George’s Channel and its facing coasts in Wales and Ireland.

Sian Northey

Mae Sian yn fardd, awdur, cyfieithydd ac arweinydd gweithdai. Mae’n ysgrifennu ar gyfer plant ac oedolion. Ei chyfrol ddiweddaraf yw Cylchoedd (Gwasg y Bwthyn, 2020),  casgliad o straeon byrion gyda lluniau gan y ffotograffydd Iestyn Hughes. Bydd Y Daith Ydi Adra, ei chyfieithiad o The Journey is Home, hunangofiant John Sam Jones, yn cael ei gyhoeddi gan Parthian yng ngwanwyn 2021 ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar gyfrol o ysgrifau. Mae ganddi ddiddordeb yn y cyswllt rhwng llenyddiaeth ac iechyd a llesiant. 

Cyn mynd yn awdur llawrydd roedd Sian yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Yn enedigol o Drawsfynydd mae bellach yn byw ym Mhenrhyndeudraeth ac yn fam i dair a nain i chwech.

Sian is a poet, author, translator and workshop facilitator, writing for both adults and children. Her latest book is Cylchoedd (Gwasg y Bwthyn, 2020), a collection of short stories with photographs by Iestyn Hughes. Her translation of John Sam Jones’ autobiography The Journey is Home will be published by Parthian, under the title Y Daith Ydi Adra, in spring 2021, and she is currently working on a collection of essays. She has a keen interest in the connection between literature and health and wellbeing.

Before becoming a freelance author, Sian was Deputy Director of Tŷ Nrewydd Creative Writing Centre. Originally from Trawsfynydd, she now lives in Penrhyndeudreath in north Wales, and has three daughters and six grandchildren.