Please see https://crime.cymru/crime-cymru-first-novel-prize/ for this information in English
Crëwyd Gwobr Nofel Gyntaf Crime Cymru First Novel Prize i hybu awduron trosedd talentog newydd o Gymru. Rhennir y wobr i ddau gategori: Ceisiadau Cymraeg a cheisiadau Saesneg. Mae panel gwahanol o feirniaid ar gyfer pob categori, a gwobr i bob un.

1. Gwobrau:
- Dyfarnir enillydd iaith Gymraeg ac enillydd iaith Saesneg. Bydd y ddau enillydd yn derbyn arhosiad pedair noson yn Encil Awduron Nant, bwthyn Llenyddiaeth Cymru sydd wedi ei leoli ar safle Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy, Gwynedd (gweler yr amodau isod). Bydd y ddau enillydd hefyd yn cael cynnig o fentora gan awduron Crime Cymru; gallan nhw ddewis wneud hyn trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg (gweler yr amodau isod).
- Bydd hefyd rhestr fer o ddau awdur yn y ddau gategori iaith. Caiff y rhai ar y rhestrau byr wobr o ‘lwyth llyfrau’ gan awduron Crime Cymru, i’w dewis gan aelodau Crime Cymru. Ein gobaith hefyd yw bydd y fraint o gael lle ar restr fer gwobr newydd o sylw yn hwb wrth ichi chwilio am gyhoeddwr yn y dyfodol.
2. Beirniadu
- Bydd aelodau Crime Cymru yn darllen pob cais, Saesneg a Chymraeg, a dderbynnir, er mwyn ffurfio rhestr hir o ddeuddeg cais ym mhob iaith; caiff y rheiny eu hanfon i’r panel beirniaid priodol.
- Y panel Cymraeg yw Sian Northey, awdur a chyfieithydd, Gwen Davies, cyfieithydd a golygydd y New Welsh Review, and Jon Gower, awdur a darlledwr.
- Y panel Saesneg yw gwerthwraig orau’r Sunday Times, Clare Mackintosh, asiant llenyddol, Peter Buckman ac awdur trosedd, Awais Khan.
- Cadeirydd y ddau banel beirniaid fydd Alison Layland, aelod Crime Cymru.
- O’r rhestr hir o geisiadau, bydd y ddau banel beirniaid yn dewis rhestr fer o dri, gan gynnwys enillydd, yn y ddwy iaith.
3. Canlyniadau:
- Hysbysir yr awduron ar y rhestr hir yn y ddwy iaith trwy e-bost, a chyhoeddir yr wybodaeth hon ar wefan Crime Cymru ynghyd â blog a sianeli cyfryngau cymdeithasol y grŵp.
- Ar ôl i’r beirniaid benderfynu, byddwn yn rhoi gwybod i awduron y rhestr fer eu bod wedi mynd trwodd i lefel nesaf y gystadleuaeth, ond heb ddatgelu pwy sydd wedi ennill. Caiff y cam hwn hefyd ei gyhoeddi ar wefan Crime Cymru ynghyd â blog a sianeli cyfryngau cymdeithasol y grŵp. Hysbysir hefyd yr awduron ar y rhestr hir nad ydynt wedi mynd trwodd.
- Caiff yr awduron ar restr fer y wobr yn y ddwy iaith eu gwahodd i seremoni gwobrwyo yng Ngŵyl Crime Cymru Festival 2022 yn Aberystwyth, lle caiff yr enillwyr eu datgan. Ni fydd presenoldeb yn yr ŵyl yn effeithio ar y canlyniadau terfynol; caiff y rheiny eu penderfynu gan y beirniaid cyn y digwyddiad. Mae Crime Cymru yn gobeithio y bydd pob awdur ar y rhestrau byrion yn gallu dod i’r seremoni gwobrwyo, ond rydym yn deall na fydd hyn yn bosibl i bawb. Rydym yn sefydliad bach sy’n lansio gwobr newydd heb nawdd sylweddol. O ganlyniad, ni fyddwn yn gallu cynnig costau teithio llawn i’r rhai ar y rhestr fer er mwyn dod i’r seremoni gwobrwyo, fel y dymunwn, ond gallwn gynnig ychydig o gymorth:
- Bydd Crime Cymru yn cyfrannu at gostau teithio hyd at £50 yr awdur ar y rhestr fer, i’w talu ar ôl inni weld derbynebau cludiant cyhoeddus, neu ar sail milltiroedd (yn ôl cyfradd o 40c y filltir).
- Bydd Crime Cymru yn cynnig tocyn am ddim i bob awdur ar y rhestr fer sy’n dod, sy’n rhoi mynediad i holl ddigwyddiadau’r Ŵyl (ac eithrio gweithdai).
- Rydym yn gobeithio cynnig llety am un nos mewn cartrefi gwirfoddolwyr sy’n gysylltiedig â’r Ŵyl, ond nid yw hyn wedi’i gadarnhau eto, ac efallai na fydd yn bosibl.
4. Canllawiau cystadlu:
- Mae’r wobr yn agored i awduron sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.
- Mae hon yn wobr i nofel gyntaf. Er mwyn cystadlu, rhaid ichi fod heb gyhoeddi nofel o’r blaen, boed gyda chyhoeddwr traddodiadol ynteu drwy hunan-gyhoeddi. Gall awduron gystadlu sydd wedi cyhoeddi llyfr mewn ffurf wahanol i nofel (e.e. cyfrol o straeon byrion neu farddoniaeth, llyfr ffeithiol creadigol).
- Does dim rhaid i geisiadau fod â lleoliad neu thema sy’n gysylltiedig â Chymru, ond rhaid iddynt fod yn nofelau trosedd. At ddibenion y gystadleuaeth hon mae’r diffiniad o nofel drosedd yn eang, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) nofelau ditectif, dirgelwch, iasoer, dirgelwch seicolegol. I weld enghreifftiau o rychwant nofelau trosedd, edrychwch ar amrywiaeth gwaith aelodau o Crime Cymru: https://crime.cymru/authors/
- Mae aelodau cyswllt Crime Cdymru yn gymwys i gystadlu, ar yr amod nad ydynt wedi hunan-gyhoeddi nofel. Dyw aelodau llawn ddim yn gymwys i gystadlu, oherwydd amod aelodaeth lawn yw eu bod eisoes â nofel mewn print.
- Rhaid i geisiadau gynnwys y 5,000 gair cyntaf o nofel drosedd, ynghyd â chrynodeb un dudalen sy’n amlinellu’r holl blot o’r nofel (gweler isod am sut i gyflwyno eich gwaith).
- Nid oes rhaid i’r nofel fod wedi’i chwblhau pan fyddwch yn cyflwyno’r cais.
- Dylai’r gwaith fod yn waith gwreiddiol yr ymgeisydd yn unig, a rhaid iddo heb fod wedi’i gyhoeddi, neu hunan-gyhoeddi, unrhyw le o’r blaen, naill ai mewn print, ar-lein, unrhyw fformat digidol neu ddarllediad.
- Rhaid i’r gwaith beidio â bod wedi’i dderbyn ar gyfer ei gyhoeddi na’i ddarlledu’n rhywle arall, neu fod wedi’i wobrwyo mewn cystadleuaeth arall, pan fyddwch yn cyflwyno’r cais. Gofynnwn i gystadleuwyr roi gwybod inni os caiff y gwaith ei dderbyn ar gyfer ei gyhoeddi neu’i ddarlledu, neu os caiff ei wobrwyo mewn cystadleuaeth arall, yn y cyfnod rhwng anfon y cais i mewn a seremoni gwobrwyo Crime Cymru.
- Rhaid i’r gwaith beidio â thresmasu ar hawlfraint neu unrhyw hawliau eraill trydydd person, a pheidio â difenwi unrhyw unigolyn neu gwmni, na bod yn dwyllodrus.
- Rhaid i’r gwaith fod mewn Cymraeg neu Saesneg, a heb fod yn gyfieithiad o waith cyhoeddedig sy’n bodoli eisoes.
- Cyfyngir y gystadleuaeth i un cais yr ymgeisydd, ac mae hyn yn cynnwys cyfieithiadau, hynny yw, os cyflwynwch waith yn y Gymraeg, allwch chi ddim cyflwyno’r un gwaith yn Saesneg.
- Rhaid i’r gwaith fod wedi’i fwriadu ar gyfer oedolion.
5. Amodau a thelerau
- Ni chodir ffi cystadlu.
- Dyw Crime Cymru ddim yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau sy’n cael eu colli, eu difrodi neu sy’n cyrraedd yn hwyr.
- Mae Crime Cymru yn cadw’r hawl i orfodi unrhyw ddarpar enillydd i gyflwyno prawf dogfennol adnabod ac o’u cyfeiriad cyn iddynt allu derbyn gwobr neu le ar y rhestr fer.
- Bydd Crime Cymru yn cadw manylion cyswllt y cystadleuwyr yn ystod blwyddyn y gystadleuaeth, dim ond er mwyn cyfathrebu â’r enillwyr a rhoi gwybod iddynt, ac er mwyn gwirio cydymffurfiad â rheolau’r wobr.
- Ni fyddwn yn pasio ymlaen manylion y cystadleuwyr i sefydliadau eraill, ac eithrio partneriaid y gystadleuaeth; rhoddir cydsyniad i hyn wrth gyflwyno cais. Ni fyddwn yn pasio ymlaen manylion cyswllt cystadleuwyr i newyddiadurwyr sydd â diddordeb yng nghanlyniadau’r wobr, ond gyda chaniatâd yr awduron dan sylw.
- Mae Crime Cymru yn cadw’r hawl i ganslo’r gystadleuaeth ar unrhyw adeg os bydd rhywbeth yn codi y tu hwnt i’n rheolaeth.
- Mae Crime Cymru yn cadw’r hawl i ffurfio rhestr hir yn llai na deuddeg ym mhob iaith, ac i beidio â gwobrwyo enillydd neu ffurfio rhestr fer mewn unrhyw un o’r ieithoedd, os nad oes digon o geisiadau o safon ddigonol.
- Ni fydd Crime Cymru na’r beirniaid yn ymgymryd â thrafodaeth gyda chystadleuwyr ynglŷn â’u gwaith na phenderfyniadau’r beirniaid. Bydd penderfyniadau’r beirniaid yn derfynol.
- Bydd yr awduron yn cadw’r hawlfraint yn eu gwaith.
6. Amodau defnyddio Nant:
Arhosiad hunanarlwyo 4 noson, Llun-Gwener, i un ysgrifennydd ym mwthyn Llenyddiaeth Cymru, Nant, sydd wedi ei leoli ar safle Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy, Gwynedd, yn ystod 2022/2023 (yn dibynnu ar argaeledd, ac eithrio’r misoedd Gorffennaf ac Awst). Cysylltir yr enillwyr â Llenyddiaeth Cymru er mwyn trafod dyddiadau posibl ac iddyn nhw hawlio’r wobr. https://www.tynewydd.wales/nant/
7. Amodau’r pecynnau mentora:
Cynigir i’r enillydd ym mhob categori gyfle i weithio gyda mentor o blith aelodau Crime Cymru, i gefnogi a hybu eu hysgrifennu yn Saesneg neu yn y Gymraeg. Bydd hyn yn cynnwys tri chyfarfod, awr yr un, i’w cynnal dros gyfnod o ddim mwy na blwyddyn. Gall mentoriaid ddarllen gwaith cyn y cyfarfodydd hyn os bydd y mentorai yn dymuno. Bydd y mentor a’r mentorai yn cytuno ar faint y gwaith i’w darllen, gan ddibynnu ar anghenion a chyfyngiadau amser y ddau. Bydd Crime Cymru yn dewis y mentor priodol i gyd-fynd orau gyda’r math o nofel y mae’r mentorai yn gweithio arni, a’r iaith dan sylw. Nid yw’r mentora’n orfodol, ac os bydd enillydd yn dewis peidio ag ymgymryd â’r rhan hon o’r wobr, ni fydd yn effeithio ar eu statws fel enillydd mewn unrhyw ffordd.
8. Sut i gystadlu:
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol nos, 3 Medi 2021.
- Anfonwch eich cais, trwy e-bost yn unig, i ccfirstnovelprize@gmail.com. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau trwy’r post.
- Rhaid i geisiadau gynnwys y 5,000 gair cyntaf o nofel drosedd ynghyd â chrynodeb un dudalen sy’n amlinellu’r holl blot o’r nofel (neu’r rhan honno o’r nofel ag sydd wedi’i chynllunio pan fyddwch yn cyflwyno’r cais). Rydym yn cymeradwyo’r canllawiau hyn ar flog Emma Darwin ar ysgrifennu crynodeb: https://emmadarwin.typepad.com/thisitchofwriting/2011/06/relax-its-only-a-synopsis.html
- Rhaid cyflwyno’r defnydd i gyd fel ffeil Microsoft Word (neu brosesydd geiriau tebyg), neu fel PDF, mewn Times New Roman, maint ffont 12, bwlch dwbl. Rhaid rhifo’r tudalennau i gyd.
- Caiff y gweithiau eu hanfon i’r darllenwyr ac i’r beirniaid yn ddienw. Os gwelwch yn dda, peidiwch â rhoi eich enw mewn unrhyw le ar y llawysgrif na’r crynodeb. Bydd Crime Cymru yn rhoi rhif unigryw i bob cais a thynnu unrhyw wybodaeth a allai ddatgelu’r awdur.
- Rhowch benodau agoriadol y nofel a’r crynodeb yn yr un ddogfen, gyda’r crynodeb yn gyntaf.
- Enwch y ffeil gyda theitl y nofel yn unig – peidiwch â chynnwys eich enw yn enw’r ffeil.
- Cynhwyswch yr wybodaeth ganlynol yn eich e-bost, os gwelwch yn dda: eich enw, eich cyfeiriad, rhif ffôn cyswllt, teitl eich nofel a chadarnhad o gategori iaith (Cymraeg neu Saesneg) eich cais. Cyfrifoldeb y cystadleuydd yw cynnwys yr holl wybodaeth y gofynnir amdani.
- Ni chaniateir unrhyw newidiadau ar ôl i’r gwaith gael ei gyflwyno.
- Mae Crime Cymru yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw gais nad yw’n cydymffurfio â’r gofynion cystadlu.
- Byddwn yn rhoi gwybod i bob cystadleuydd ein bod wedi derbyn y cais.
- Trwy gyflwyno eich cais, ystyrir ichi dderbyn yr Amodau a Thelerau i gyd, gan gynnwys y cyfarwyddiadau cystadlu. Bydd ceisiadau nad ydynt yn cydymffurfio yn cael eu gwrthod
Edrychwn ymlaen yn fawr at ddarllen eich gwaith – anfonwch eich cais i mewn ar ccfirstnovelprize@gmail.com!