Cyfweliad gyda Dylan Wyn Williams, enillydd cystadleuaeth iaith-Gymraeg yng Ngwobr Nofel Gyntaf Crime Cymru First Novel Prize

In this week’s blog we have an interview with Dylan Wyn Williams, winner of the Welsh-language section of the Gwobr Nofel Gyntaf Crime Cymru First Novel Prize, discussing among other things his prizewinning work-in-progress novel, Gwesty Cymru, how the fascinating variety of characters who visited the National Eisteddfod in Cardiff Bay in 2018 offer invaluable inspiration for a novelist, and how the Crime Cymru prize will help him complete the novel and develop his writing career.

See below for more about Dylan, a translator, editor and scriptwriter – and of course, budding novelist.

CC: Llongyfarchiadau, Dylan, am ennill cystadleuaeth iaith-Gymraeg yng Ngwobr Nofel Gyntaf Crime Cymru First Novel Prize! Cafodd dy ymgais, Gwesty Cymru, ganmoliaeth fawr gan ein beirniaid. Elli di ddweud ychydig amdani?

DWW: Fy mwriad oedd creu nofel drosedd wedi’i gosod mewn gwesty moethus ym Mae Caerdydd adeg wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol. Does dim ditectif fel y cyfryw, gan mai lle’r darllenydd ydi ymchwilio a dyfalu drosto’i hun. Rydyn ni’n cychwyn ar nos Sadwrn ola’r Steddfod/oriau mân bore Sul, a rhywun yn gelain yn y Cardiff Bay Excelsior. Wrth i’r stori fynd rhagddi, rydyn ni’n weindio’n ôl i ddechrau’r wythnos gan daro ar draws cymeriadau amrywiol heb fawr o gyswllt â’i gilydd ar yr olwg gynta, sy’n arwain at y digwyddiad trasig. Mae yma gariad a hen hen gynnen, gwrthdaro proffesiynol, aelodau corau anystywallt a Seneddwyr amheus, a thipyn o chwarae’n troi’n chwerw.



CC: Yn ôl y beirniaid, mae lleoliad Bae Caerdydd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2019 “yn eiconaidd, yn lliwgar ac yn gofiadwy”. Beth wnaeth ysbrydoli dy ddewis o leoliad? Wyt ti’n eisteddfotwr brwd, neu, am fod y nofel yn ddychanol, y gwrthwyneb?

DWW: Dwi’n ’steddfotwr reit frwd byth ers codi pabell go simsan gyda chriw o ffrindiau ym Mro Delyn 1991. Mae’n rhan mor annatod o’n profiad prifio fel cenedl, yn union fel y Royal Welsh i eraill. Ac roedd Prifwyl ddi-ffens, rad am am ddim Caerdydd 2018 mor wahanol i’r Maes glaswelltog traddodiadol, ac yn dipyn o sioc i’r hen stejars. Roedd gynnoch chi hongliad o theatr yn lle pafiliwn, sioe oleuadau nosweithiol ar y dŵr, mwy o ymwelwyr tramor a lleiafrifoedd ethnig nag erioed o’r blaen, Gorseddigion mewn atyniad Dr Who, lle celf mewn senedd-dy, dramâu yn rhai o adeiladau segur hanesyddol Bute St, murlun enfawr o Jarman, ac enillydd y Tour de France. Roeddwn am botelu holl elfennau wythnos fawr y Cymry mewn stori drosedd.

Mae defnyddio’r Brifwyl fel cefndir hefyd yn esgus perffaith i ddenu pobl o bob lliw a llun at ei gilydd. Ardalwyr ac acenion gwahanol, yn wleidydd o Sir y Fflint i Archentwraig ifanc, sy’n rhannu’r un filltir sgwâr am wythnos o Awst. Roedd rhaid i mi gael lleoliad a chyd-destun credadwy llawn siaradwyr Cymraeg i allu sgwennu’n rhwydd amdanyn nhw.

Ac oes, mae yna elfennau dychanol i’r nofel – ond dychan iach, gobeithio, nid pechu. Mae ond yn iawn inni chwerthin ar ein pennau ein hunain weithiau. Onid oedd Cymry-braf-eu-byd rhagrithiol yn bodoli yn oes Daniel Owen hefyd?

CC: Mae yna gast o gymeriadau amrywiol a chofiadwy. Sut est ti ati i’w creu a’u portreadu?

DWW: Fel uchod, roedd gosod y stori adeg wythnos yr Eisteddfod yn esgus perffaith i gael pobl o bob cwr a chefndir yn yr un lle. Ac mae Caerdydd yn gyfle i fynd â nhw a’r stori ymhellach, a chreu elfen o berygl i ffwrdd o barchusrwydd y ‘Maes’. Yn wir, mae’r brifddinas a’r Gwesty dan sylw yn gymeriadau ynddyn nhw eu hunain.

Mae rhywun wrth reswm yn meddwl am ei gydnabod, ac yn cyfuno elfennau ohonyn nhw mewn un cymeriad. Dwi hefyd yn gythraul busneslyd, ac wrth fy modd yn clustfeinio ar sgyrsiau pobl ar y trên, yn y caffi neu’r dafarn. Mae ambell lein o sgwrs ffôn symudol cywilyddus o uchel ar fy hen lwybr cymudo o’r cymoedd i Gaerdydd ers talwm wedi aros yn y cof. Ac weithiau, mi wela i siopwr yn Lidl (“mae archfarchnadoedd eraill ar gael”) sy’n tanio’r dychymyg gan feddwl am bethau fel “ma’ na densiwn yn ffrwtian rhyngddi hi a’i gŵr” a “betia ’i bod wedi pleidleisio dros Brexit”.

Mae gen i ddiddordeb angerddol mewn tafodieithoedd ac acenion pobl, ac wrth fy modd yn ceisio cyfleu hynny mewn deialog naturiol goeth. Mae’r Saeson yn gwneud cythraul o gamsyniad yn meddwl bod pawb yng Nghymru yn siarad ystrydeb y Valleys.

CC: Wyt ti’n gweithio fel cyfieithydd a golygydd a hefyd yn sgwennu ar gyfer papurau newydd. Sut mae dy waith yn helpu – neu’n rhwystro – dy sgwennu creadigol?

DWW: Fel cyfieithydd naw-tan-bump, rhaid cyfaddef bod taclo jargons drwy’r dydd yn dueddol o ladd yr awen min nos. Y peth ola dwi am ei wneud ydi eistedd o flaen sgrin cyfrifiadur ar ôl tamaid o swpar. Dwi’n gorfodi’n hun i weithio ar adegau eraill, ben bore neu awr neu ddwy ar benwythnosau. Mae angen cryn ddisgyblaeth, a dwi heb ei ffeindio eto.

Ar y llaw arall, dwi wedi dysgu sut i hogi fy sgiliau golygu yn fy ngwaith bob dydd ac wrth gyfrannu at bapurau newydd. Mae gennyf amserlen dynn i’w hateb a gofynion caeth o ran nifer y geiriau, a rhaid cadw’r gynulleidfa mewn cof bob amser. Mae’n uffarn o her cael y Cymry i ddarllen yn eu hiaith eu hunain.

CC: Gofynnodd y gystadleuaeth am grynodeb o’r nofel ynghyd â’r 5,000 o eiriau cychwynnol. Ydi’r nofel orffenedig ar y gorwel? Beth ydi dy gynlluniau ar ei chyfer?

DWW: Mae’r nofel ar ei chwarter o hyd! Mae amser ac amynedd yn brin, ond dwi’n dal yn berwi o syniadau – tua dau y bore fel arfer. Ond dwi’n edrych ymlaen at dreulio wythnos yn encil awduron y Nant, Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd Llanystumdwy, ddiwedd mis Medi, er mwyn canolbwyntio’n llwyr ar y nofel. Dim jargons na’r cyfryngau cymdeithasol am sbelan felly.

Roedd sylwadau’r beirniaid profiadol Jon Gower, Sian Northey a Gwen Davies yn gymaint o hwb i rywun fwrw iddi. Mae sgwennu yn gallu bod yn broses unig iawn, felly mae unrhyw air o gyngor ac arweiniad o’r tu allan yn help mawr.

CC: Fel rhan o’r Wobr, wyt ti wedi ennill cwrs o fentora gyda Myfanwy Alexander. Ar beth fyddi di’n gweithio arno efo hi?

DWW: Dwi’n gobeithio dysgu mwy am dechnegau sgwennu – beth weithiodd iddi hi. A oedd ganddi rhyw drefn arbennig, pryd a lle i sgwennu, y broses olygu a sut mae’n ymdopi â gelyn pob sgwennwr – y “writer’s block” felltith.

CC: Diolch o galon, Dylan. Mae holl aelodau Crime Cymru yn dymuno pob da iti, ac yn edrych ymlaen at weld y Gwesty Cymru gorffenedig!


Ynglŷn â Dylan

Yn frodor o Garmel Dyffryn Conwy, mae Dylan bellach yn byw yn Radur. Pan nad yw’n cyfieithu a golygu i gwmni Testun Cyf, mae’n potsian sgwennu yn ei amser sbâr. Mae’n cyfrannu’n ysbeidiol i bapurau bro Nant Conwy (Yr Odyn) a Chaerdydd (Y Dinesydd), ac yn sgwennu colofn radio a theledu fisol i’r ‘Cymro’ ar ôl gwneud hynny i ‘Golwg’ a gwefannau ‘Nation.Cymru’ a BBC Cymru Fyw yn y gorffennol. Ysgrifennodd gyfres straeon antur i blant (Beicwyr Bedlam) ar gyfer cylchgrawn ‘Cip’ yr Urdd, ac enillodd sawl gwobr cyfansoddi drama fer yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae ei waith teledu yn cynnwys ‘Salidas’ wedi’i gosod mewn stafell aros maes awyr yn Sbaen, ac ambell bennod o ‘Pobol y Cwm’ dan fenter sgwenwyr newydd y BBC. Bu mentoriaid prifysgol fel Manon Rhys, Caerdydd, ac William Lewis a Gwyn Thomas, Bangor, yn gaffaeliad enfawr.

Mae wrth ei fodd gydag arfordir Cymru, ar ôl crwydro rhan helaeth o Ynys Môn a Bro Morgannwg yn fuan wedi’r cyfnodau clo. A phan fydd amser ac arian yn caniatáu, mae’n hel dinasoedd Ewrop yn enwedig rhai gwledydd y Baltig a Llychlyn byth ers darganfod nofelau a chyfresi ‘Wallander’ y diweddar Henning Mankell.

About Dylan

Originally from Carmel, Conwy Valley, Dylan now lives in Radur. When he’s not translating and editing for the company Testun Cyf., he turns his hand to writing in his spare time. He’s an occasional contributor to the local papers Yr Odyn (Nant Conwy)and Y Dinesydd (Cardiff), and writes a monthly column on radio and TV for Y Cymro (Welsh-language newspaper), having also written in the past for the magazine Golwg as well as the Nation.Cymru and BBC Cymru Fyw websites.  He wrote a series of adventure stories for children (Beicwyr Bedlam) for the Urdd magazine Cip, and has won several drama-writing prizes at the National Eisteddfod. His TV credits include Salidas, set in an airport waiting room in Spain, and several episodes of Welsh soap Pobol y Cwm as part of a BBC support scheme for new writers. University mentors including Manon Rhys, Cardiff and William Lewis and Gwyn Thomas, Bangor, have been a valuable inspiration to him.

He loves spending time on the Welsh coast, and has spent the post-lockdown period exploring large parts of Anglesey and the Vale of Glamorgan. When time and money permit, he enjoys visiting the cities of Europe, especially those of the Baltic countries and Scandinavia, inspired by the novels and TV series Wallander  by the late Henning Mankell.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s