Gareth Williams

Mae Gareth W. Williams yn wreiddiol o’r Rhyl ond bellach yn byw yn Nelson, Caerffili. Bu’n gweithio ym myd addysg tan iddo ymddeol. Ysgrifennodd un nofel ‘Gwenyn’ a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer 25 mlynedd yn ôl a throdd at ysgrifennu yn fwy o ddifrif ers ymddeol.

Nofelau dirgelwch yn hytrach na nofelau ditectif fyddai’r disgrifiad agosaf ar gyfer ‘Gwenyn’ yn ogystal â’r trioleg diweddaraf. Maen nhw i gyd yn sôn am fygythiadau allanol i’r gymdeithas Gymraeg a Chymreig.
Mae 
‘Y Teyrn’, ‘Y Llinach’ ac ‘Yr Eryr’ wedi eu gosod yn nhref fechan glan y môr Y Berig ac yn fuan daw darllenwyr i sylweddoli nad yw’r delfryd o gymdeithas Gymraeg mor ddelfrydol ag y mae’n ymddangos. Mae’r tair nofel yn dilyn hanes Arthur Goss, ditectif sy wedi ymddeol ond sy am dreiddio i hanfod y gymdeithas ac mae’r hanesion yn dilyn ei gilydd dros gyfnod o rhyw ddwy flynedd.

Mae’r cymeriadau a’r berthynas rhyngddynt yn gryf a chredadwy ac er bod y nofelau’n rhwydd eu darllen, maen nhw’n gofyn cwestiynau go grafog am ein cymdeithas Gymraeg. Mae’r nofelau’n eithaf tywyll eu naws ond mae elfen o hiwmor ynddyn nhw hefyd.

Visit Gareth’s Amazon Store.