Gwobr Nofel Gyntaf Crime Cymru

Please see https://crime.cymru/crime-cymru-first-novel-prize/ for this information in English

Crëwyd Gwobr Nofel Gyntaf Crime Cymru First Novel Prize i hybu awduron trosedd talentog newydd o Gymru. Rhennir y wobr i ddau gategori: Ceisiadau Cymraeg a cheisiadau Saesneg. Mae panel gwahanol o feirniaid ar gyfer y ddau categori, a gwobr bob un.

Gwybodaeth benodol ar gyfer Cystadleuaeth 2025

  1. Bydd y gystadleuaeth yn agor i geisiadau ar 31 Mawrth ac yn cau am hanner nos ar 1 Medi 2024.
  2. Cyhoeddir yr enillwyr yn ystod Gŵyl Crime Cymru Festival yn Aberystwyth, 25-27 Ebrill 2025.
  3. Bydd pawb ar y rhestr fer yn derbyn tocyn penwythnos i ddau berson ar gyfer Gŵyl Crime Cymru Festival 2025.
  4. Bydd yr enillydd yn y ddwy iaith yn derbyn pecyn mentora gydag awdur trosedd llwyddiannus yn yr iaith briodol, gwerth o leiaf £1000. Bydd y ddau awdur arall ar y rhestr fer yn derbyn bwndel o lyfrau awduron Crime Cymru.
  5. Bydd pecynnau mentora yn cynnwys pum cyfarfod o un awr i’w cynnal dros gyfnod o ddim mwy na deuddeg mis. Gall mentoriaid ddarllen deunydd cyn y cyfarfodydd hyn, gyda nifer y geiriau i’w darllen yn dibynnu ar angen a chyfyngiadau amser y naill barti neu’r llall.
  6. Sicrhewch eich bod wedi darllen yr holl ganllawiau ceisio oherwydd gallai methu â bodloni’r meini prawf y gofynnwyd amdanynt arwain at ddiarddel.

1 Cymhwysedd:

  1. Mae’r wobr yn agored i awduron sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd yn unig.
  2. I gystadlu, rhaid nad ydych wedi cyhoeddi nofel o’r blaen, boed yn draddodiadol neu drwy hunan-gyhoeddi. Mae awduron sydd wedi cyhoeddi llyfr mewn ffurfiau heblaw nofelau (e.e. casgliad o farddoniaeth neu straeon byrion, llyfr ffeithiol greadigol) yn gymwys i gystadlu.
  3. Does dim rhaid i geisiadau fod â lleoliad neu thema sy’n gysylltiedig â Chymru, ond rhaid iddynt fod yn nofelau trosedd. At ddibenion y gystadleuaeth hon mae’r diffiniad o nofel drosedd yn eang, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) nofelau ditectif, dirgelwch, iasoer, dirgelwch seicolegol, a gellir eu gosod yn y gorffennol, y presennol neu’r dyfodol.
  4. Rhaid i geisiadau gynnwys y 5,000 gair cyntaf o nofel drosedd, ynghyd â chrynodeb un dudalen sy’n amlinellu holl blot y nofel (gweler isod am sut i gyflwyno eich gwaith).
  5. Nid oes rhaid i’r nofel fod yn gyflawn pan yn gwneud y cais.
  6. Dylai’r gwaith fod yn waith gwreiddiol yr ymgeisydd yn unig, a rhaid iddo fod heb ei gyhoeddi, neu hunan-gyhoeddi, unrhyw le o’r blaen, naill ai mewn print, ar-lein, unrhyw fformat digidol neu wedi’i ddarlledu.
  7. Ni ddylai gweithiau fod wedi cael eu derbyn i’w cyhoeddi na’u darlledu mewn man arall, neu fod wedi’u gwobrwyo mewn cystadleuaeth arall, pan fyddwch yn cyflwyno’r cais. Gofynnwn i gystadleuwyr roi gwybod inni os caiff y gwaith ei dderbyn ar gyfer ei gyhoeddi neu’i ddarlledu, neu os caiff ei wobrwyo mewn cystadleuaeth arall, yn y cyfnod rhwng anfon y cais i mewn a’r seremoni wobrwyo.
  8. Dylai cyflwyniadau fod yn weithiau gwreiddiol yn y Gymraeg neu’r Saesneg, ac nid yn gyfieithiadau o waith cyhoeddedig presennol
  9. Rhaid i waith beidio â thorri hawlfraint nac unrhyw hawliau eraill unrhyw drydydd parti, na bod yn ddifenwol o unrhyw unigolyn neu gwmni, na bod yn dwyllodrus.
  10. Cyfyngir y gystadleuaeth i un cais yr ymgeisydd, ac mae hyn yn cynnwys cyfieithiadau, hynny yw, os cyflwynwch waith yn y Gymraeg, allwch chi ddim cyflwyno yr un gwaith yn Saesneg.
  11. Rhaid i’r gweithiau gael eu hanelu at oedolion.
  12. Mae aelodau cyswllt o Crime Cymru yn gymwys i gystadlu, ar yr amod nad ydynt wedi hunan-gyhoeddi nofel o’r blaen. Nid yw aelodau llawn yn gymwys – oherwydd eu bod yn aelodau llawn mae ganddynt lyfrau mewn print yn barod.

2 Beirniadu:

  1. Bydd panel o awduron Crime Cymru yn darllen pob cais a gyflwynwyd i ffurfio rhestr hir o ddeuddeg yn y ddwy iaith. Anfonir y ceisiadau ar y rhestrau hir i’r panel beirniadu perthnasol erbyn dechrau mis Rhagfyr.
  2. Bydd dau feirniad ar gyfer y gystadleuaeth Gymraeg a dau i’r un Saesneg gyda chadeirydd y Wobr Nofel Gyntaf yn penderfynu’r ennillydd os bydd y beirniaid yn methu â chytuno. Bydd beirniaid yn cael eu dewis o’r gymuned ysgrifennu trosedd broffesiynol gan gynnwys awduron, asiantiaid, cyhoeddwyr a golygyddion.
  3. O’r rhestr hir o geisiadau a ddarperir i bob panel, bydd y beirniaid yn dewis rhestr fer o dri yn y ddwy iaith. Bydd y rhestr fer yn cael ei chyhoeddi erbyn dechrau mis Mawrth, 2025.

3 Canlyniadau:

  1. Hysbysir yr awduron ar y rhestr hir yn y ddwy iaith trwy e-bost, a chyhoeddir yr wybodaeth hon ar wefan Crime Cymru ac ar flog a sianeli cyfryngau cymdeithasol y grŵp.
  2. Ar ôl i’r beirniaid benderfynu, bydd y tri awdur ym mhob categori iaith ar y rhestr fer yn cael eu hysbysu. Caiff y cam hwn hefyd ei gyhoeddi ar wefan Crime Cymru ac ar flog a sianeli cyfryngau cymdeithasol y grŵp. Hysbysir hefyd yr awduron ar y rhestr hir nad ydynt wedi mynd trwodd.
  3. Caiff yr awduron ar restr fer y wobr yn y ddwy iaith eu gwahodd i seremoni wobrwyo yng Ngŵyl Crime Cymru Festival 2025 yn Aberystwyth, lle caiff enwau yr enillwyr eu cyhoeddi.
  4. Bydd Crime Cymru yn cyfrannu at gostau teithio yr awduron ar y rhestr fer hyd at £50 yr un, yn daladwy pan gyflwynir derbynebau trafnidiaeth gyhoeddus neu hawliad milltiredd (telir 40c y filltir).




4 Amodau a thelerau:

  1. Gofynir ffi o £10 i gymryd rhan yn y gystadleuaeth – bydd manylion am sut i dalu yn cael eu darparu i bawb sy’n cystadlu ac ni fydd unrhyw gais yn ystyried ei fod wedi’i gyflwyno’n ffurfiol hyd nes y derbynnir y ffi.
  2. Mae Crime Cymru yn cadw’r hawl i orfodi unrhyw ddarpar enillydd i ddarparu prawf dogfennol o’u hunaniaeth a’u cyfeiriad cyn y gall person o’r fath hawlio ei wobr neu statws rhestr fer.
  3. Bydd Crime Cymru yn cadw manylion cyswllt yr ymgeiswyr am gyfnod y flwyddyn wobr yn unig fel y gellir hysbysu a chyfathrebu â’r enillwyr, ac er mwyn gwirio cydymffurfiaeth â rheolau’r gwobrau.
  4. Ni fydd Crime Cymru yn trosglwyddo manylion ymgeiswyr i sefydliadau eraill, ac eithrio partneriaid yn y gwobrau, y rhoddir caniatâd iddynt wrth ymgeisio. Dim ond gyda chaniatâd yr awduron y bydd manylion cyswllt ymgeiswyr yn cael eu trosglwyddo i newyddiadurwyr sydd â diddordeb yng nghanlyniad y wobr.
  5. dd. Mae Crime Cymru yn cadw’r hawl i ganslo’r wobr ar unrhyw adeg os bydd amgylchiadau’n codi y tu allan i’w rheolaeth.
  6. Mae Crime Cymru yn cadw’r hawl i ffurfio rhestr hir fyrrach na deuddeg ymgais yn y ddwy iaith, ac i beidio â dyfarnu lleoedd i enillwyr neu’r rhai ar y rhestr fer yn y naill iaith na’r llall, os bernir bod y ceisiadau o ansawdd annigonol.
  7. Ni fydd Crime Cymru na’r beirniaid yn ymgymryd â thrafodaeth gyda chystadleuwyr ynglŷn â’u gwaith na phenderfyniadau’r beirniaid. Bydd penderfyniadau’r beirniaid yn derfynol.
  8. Bydd yr awduron yn cadw’r hawlfraint yn eu gwaith.

5 Sut i gystadlu:

  1. Anfonwch eich cais, trwy ebost, i ccfirstnovelprize@gmail.com
  2. Rhaid i geisiadau gynnwys y 5,000 gair cyntaf o nofel drosedd ynghyd â chrynodeb un dudalen sy’n amlinellu holl blot y nofel (neu’r rhan honno o’r nofel sydd wedi’i chynllunio pan fyddwch yn cyflwyno’r cais). Rydym yn cymeradwyo’r canllawiau hyn ar flog Emma Darwin ar ysgrifennu crynodeb: https://emmadarwin.typepad.com/thisitchofwriting/2011/06/relax-its-only-a-synopsis.html
  3. Rhaid cyflwyno’r defnydd i gyd fel ffeil Microsoft Word (neu brosesydd geiriau tebyg), neu fel PDF, mewn Times New Roman, maint ffont 12, bwlch dwbl. Rhaid rhifo’r tudalennau i gyd.
  4. Caiff y gweithiau eu hanfon i’r darllenwyr ac i’r beirniaid yn ddienw. Os gwelwch yn dda, peidiwch â rhoi eich enw mewn unrhyw le ar y llawysgrif na’r crynodeb. Bydd Crime Cymru yn rhoi rhif unigryw i bob cais ac yn dileu unrhyw wybodaeth a allai ddatgelu’r awdur.
  5. Dylai agoriad y nofel a’r crynodeb fod yn yr un ddogfen, gyda’r crynodeb yn gyntaf.
  6. Enwch y ffeil gyda theitl y nofel yn unig – peidiwch â chynnwys eich enw yn enw’r ffeil.
  7. Cynhwyswch yr wybodaeth ganlynol yn eich e-bost, os gwelwch yn dda: eich enw, eich cyfeiriad, rhif ffôn cyswllt, teitl eich nofel a chadarnhad o gategori iaith (Cymraeg neu Saesneg) eich cais. Cyfrifoldeb y cystadleuydd yw cynnwys yr holl wybodaeth y gofynnir amdani.
  8. Ni chaniateir unrhyw newidiadau ar ôl i’r gwaith gael ei gyflwyno.
  9. Mae Crime Cymru yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw gais nad yw’n cydymffurfio â’r gofynion cystadlu.
  10. Bydd Crime Cymru yn rhoi gwybod i bob cystadleuydd ein bod wedi derbyn y cais.
  11. Trwy gyflwyno eich cais, ystyrir ichi dderbyn yr Amodau a Thelerau i gyd, gan gynnwys y cyfarwyddiadau cystadlu. Bydd ceisiadau nad ydynt yn cydymffurfio yn cael eu gwrthod

Edrychwn ymlaen yn fawr at ddarllen eich gwaith – anfonwch eich cais i mewn ar ccfirstnovelprize@gmail.com!