During the run-up to Christmas, the authors of Crime Cymru have come together to post short Christmas stories throughout December to the Crime Cymru website and its social media platforms. There will be a story every Wednesday, Friday and Sunday until the 22nd of December. Each story will be by a different author to keep your thirst for crime fiction alive while the stress of Christmas takes over.
We hope you enjoy our festive tales and on behalf of all the authors, we wish you a Merry Christmas.

Stori fer drawiadol gan Gareth W. Williams sy’n ein hatgoffa am bwer storÏau yn ein bywydau.
Cadair Idris by Gareth W Williams
Tafarn wledig rhyw bum milltir o’r dre oedd ac ydy’r Crown. Ces i job yno’n gweithio tu ôl i’r bar yn ystod gwyliau’r haf tra’n fyfyriwr. Doedd hi ddim yn rhy bell i yrru yno. Pobol leol gan mwyaf yn ystod y gaeaf ond doi cryn dipyn o ymwelwyr yno yn ystod yr haf i flasu’r cwrw, yr hedd a’r olygfa dros yr afon dros y dibyn islaw. Roedd Les y tafarnwr, a’i wraig Edith, cwpwl o Wrecsam yn wreiddiol, yn gadael pethau i mi tan iddi hi brysuro tua’r hwyr yn y bar. Roeddwn i’n dechrau am chwech ac mi fyddai hi’n ddigon tawel tan tua wyth o’r gloch. Tua saith o’r gloch ddaeth o i mewn.
Welais i mono fo am y pythefnos cyntaf oeddwn i wedi bod yn gweithio yno ond gwyddwn am ei fodolaeth gan fod plât fechan o bres wedi ei gosod yn y bar gyferbyn a’i sedd arferol. Roedd honno’n un digon anghyfforddus yn fy marn i, wedi ei haddasu o hen sedd tractor ar ben hen wchel i wneud stôl bar. Ar y plât roedd y geiriau ‘CADAIR IDRIS’ a phrin y byddai neb yn eistedd ar y stôl. Wyddwn i ddim os mai o barch i’r un oedd yn hawlio’r lle oedd hynny neu am y ffaith fod y stôl mor gythreulig o boenus i aros arni’n hir.
Heb law am gwpwl ifanc yn eistedd ar y soffa ger y lle tân, roedd y bar yn wag pan welais i o y tro hwnnw; dyn bychan o gorffolaeth a’i gefn braidd yn grwm yn hercian trwy’r drws yn ei gap a’i oferôls pardduog a phlannu ei hun ar y stôl. Roedd ei wyneb ysgythrog yn frowngoch heb law am siâp gogls yn hollol wyn rownd ei lygaid. ‘Peint o hwnna, plîs,’ meddai a chyfeirio at bwmp y cwrw gorau a’i lygaid yn edrych yn syth ata i. Gwyliodd fi’n ofalus yn tynnu’r cwrw melyn o’r pwmp. Cyflwynais y gwydr iddo wedyn. Cododd yntau’r gwydr i archwilio ansawdd y cynnwys cyn ei godi at ei wefusau a llyncu’r cyfan mewn un sloch hir. Rhoddodd y gwydr yn ôl ar y bar wedyn a sychu’r ewyn o’i safn. ‘Dyna well,’ meddai. ‘Well i mi gael un arall. Dala i wedyn,’ ychwanegodd. Ufuddheuais.
‘Pedwar swllt, plîs,’ medde fi wedyn.
Aeth yntau i boced ei oferôls i nôl ei arian a thynnu rholyn sylweddol o bapurau pum punt ohoni. Ymbalfalodd yn y boced wedyn a thynnu dau hanner coron allan a’u cynnig i mi. Rhoddodd y rholyn yn ei ôl wedyn. Wrth dderbyn ei swllt o newid sylwais ar ei law oedd yn arbennig o rymus i ddyn mor fychan. Roedd ôl gwaith blynyddoedd arni a thipyn o ôl llafur y diwrnod hwnnw hefyd gyda staen olew yn ddu ar ei chefn.
‘Mecanic?’ holais i.
‘Rhywbeth felly,’ atebodd yntau yn ddigon swta yn astudio ewyn ei ail beint oedd wedi cael cyfle i aros tipyn yn hwy ar y bar y tro hwn.
‘Ceir?’ holais i wedyn yn ceisio cynnal trafodaeth fel sy’n ddisgwyliedig i bob barman gwerth ei halen.
‘Motobeics,’ meddai. ‘Ti’n gwbod rhywbeth am fotobeics?’
‘Roedd yn yncl i’n arfer rasio nhw.’
‘Be oedd ei enw fo?’
‘Tomi Mac oedden nhw’n ei alw fo.’
Daeth goleuni sydyn i’w lygaid. ‘Yn ei nabod o’n iawn. Yfflon o foi da. Ariel oedd gynno fo. Matchless oedd gen i. Mi ddaethon ni’n go agos ar yr Eil o Man un tro ond doedden ni ddim patsh ar Geoff Duke, Malcolm Uphill a’u tebyg ar eu Nortons a’i Gileras.’ Roedd tân wedi ei gynnau rywle yn ei ymennydd a llifeiriodd yr atgofion wedyn. Edrychai’n graff ar ewyn ei beint fel petai drych i’r gorffennol ynddo.
‘Mi oedd hi’n ddwrnod crasboeth yn Oulton Park, dw i’n cofio,’ dechreuodd. ‘Mi oeddwn i a Tomi yno a’r ddau ohonon ni wedi preimio’n beics i’r dim …,’ meddai a llifodd yr hanes yn ffri. Bobol, mi oedd gan hwn ddawn y cyfarwydd i gyfareddu ac aeth â fi rownd pob cornel ar y trac a minnau’n cordeddu dros y tarmac yn gwyro o un ochr i’r llall gydag o. Clywais am bob gornest bersonol yn y ras; teimlais yr her a cefais flas o’r ofn. ‘Roedd Tomi a fi ar y blaen a mi allwn i deimlo gwynt Geoff Duke y tu ôl i ni.’ Roeddwn i wedi fy swyno a mynnwn bob CC o bŵer i’r beic oddi tanom, ond peidiodd y llifeiriant yn sydyn.
‘Enilloch chi?’ holais i yn ddiamynedd.
‘Naddo. Mi basiodd y diawl ni ar y gornel ola ac mi oedden ni’n edrych ar ei egsôst o dros y lein. Ond mi oedden ni’n agos. Fi’n ail a Tomi’n drydydd. Bobol dyna be oedd ras,’ meddai y chymryd llwnc o’i beint.
Clywais ddrws ffrynt y dafarn yn agor. Roedd y tîm darts ar ei ffordd i mewn i’r ystafell gefn. Ymddiheurais a gadael i fynd rownd y gornel at y bar arall. Dim ond Glyn oedd wedi cyrraedd. Roeddwn i wedi dod i’w nabod o’n go lew. Tra’n tynnu ei beint holais,- ‘Ti’n nabod Idris?’
‘Idris Beics?’
‘Ia.’
‘Yfflon o foi clên, rêl storïwr.’
‘Ia dene fo.’
Mi oedd o’n medru trwsio unrhyw beth: ceir, tractors ond beics oedd ei bethe fo. Fo weldiodd y sêt ’ne wrth y bar drws nesa. Mi oedd o’n dipyn o foi rasio yn ei ddydd.’
‘Be ti’n feddwl ‘oedd’?’ holais i.
‘Ddarllenest ti mo’r hanes yn y Daily Post rhyw ddau fis yn ôl? Ar ei feic gafodd o ei ladd. Mi aeth o dros y wal i’r afon yn fan acw ar ei ffordd adre. Wedi meddwi’n dwll. Biti garw. Mi oedd o wedi gwerthu ei hen feic rasio ac mi oedd y pres yn llosgi yn ei boced o, am wn i. Wedi mynd i ddyled, glywes i.’
‘O,’ medde fi.
‘Ti’n olreit?’ holodd Glyn oedd yn amlwg wedi sylwi arna i’n gwelwi ac yn anadlu’n drymach.’
‘Ydw,’ medde fi a throi yn ôl i’r bar arall. Roedd yr ystafell yn wag ond roedd gwydr Idris yn dal ar y cownter gyda’r ewyn yn slefrian i lawr yr ymyl. Clywais sŵn motobeic yn tanio a’r rhu’n pylu yn y pellter wedyn.
To read more of Gareth W Williams’s work, visit his amazon page
11th December 2019