Newyddion cyffrous – mae Gwyl CRIME CYMRU Festival ar y gweill.

Tri phrif amcan sydd gan Crime Cymru:
Cefnogi awduron trosedd sy’n byw yng Nghymru neu sydd â pherthynas go-iawn â Chymru
Hybu awduron trosedd talentog newydd yng Nghymru
Hyrwyddo Cymru a’i diwylliant, gyda’r pwyslais ar ffuglen drosedd, yn fyd-eang.

Yn ystod ei dair blynedd gyntaf, canolbwyntiodd Crime Cymru ar y cyntaf o’r amcanion hynny, gan sefydlu cymuned gefnogol o awduron ffuglen drosedd trwy amrywiaeth o gyfryngau, ar-lein ac yn y byd go-iawn. Wedyn, ym Mis Ebrill 2020, penderfynodd yr aelodau i fynd i’r afael â düwch Covid-19 a oedd yn teyrnasu, trwy ddechrau ar yr ail a’r trydydd amcan.

Felly, yn 2021 bydd Crime Cymru yn lansio ei gystadleuaeth nofel drosedd gyntaf ac, yn 2022, bydd yn cynnal ei ŵyl genedlaethol ffuglen drosedd gyntaf, sef Gŵyl CRIME CYMRU Festival 2022.

Er bod mwy na dwsin o wyliau ffuglen drosedd yn Lloegr, pump yn yr Alban ac un yng Ngogledd Iwerddon, hyd yma dyw Cymru ddim wedi bod yn gartref i ŵyl ffuglen drosedd eu hun – felly mae Crime Cymru yn benderfynol y bydd yn ddigwyddiad i ddenu darllenwyr ffuglen drosedd o bob cwr o’r wlad a thu hwnt.

Gyda chefnogaeth Cyngor Tref Aberystwyth, a nifer o fusnesau’r dref, cynhelir Gŵyl CRIME CYMRU gyntaf erioed yn Aberystwyth dros benwythnos Gŵyl Banc Mai cynnar, sef 30 Ebrill – 2 Mai, 2022.
Am ragor o wybodaeth, gweler rhifyn Hydref o’r cylchgrawn Aberystwyth EGO (tud. 20) a chewch hefyd wybodaeth bellach am Crime Cymru ar dudalennau eraill y wefan hon.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s